Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2020
Amser: 08.30 - 09.14
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 12 Chwefror 2020 -
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.
Nododd y Pwyllgor Busnes fod y Comisiwn Cyfiawnder diweddar yng Nghymru wedi argymell y dylai'r Cynulliad chwarae rhan fwy rhagweithiol wrth graffu ar weithrediad y system gyfiawnder a monitro ac adolygu cynnydd ar ddiwygio cyfiawnder.
Cytunodd y Pwyllgor i gynnig i'r Cynulliad bod enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cael ei newid i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Legislation, Justice and Constitution Committee - gan ychwanegu cyfeiriad at gyfiawnder yn ei gylch gwaith.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod swyddogaethau mewn perthynas â chyfiawnder sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac o fewn cylch gwaith pwyllgorau eraill - megis gwasanaethau i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr ac i hyrwyddo adsefydlu sy'n ymwneud â thai, addysg a hyfforddiant, datblygu economaidd a llywodraeth leol - yn parhau i fod yn rhan o gyfrifoldebau'r pwyllgorau hynny.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur ac ymatebion gan Aelodau i'r ymgynghoriad, ochr yn ochr â'r wybodaeth ddiweddaraf gan Dŷ'r Cyffredin, a chytunwyd mewn egwyddor i gyflwyno cynllun pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant ar sail prawf tan ddiwedd y Cynulliad hwn. Gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion ar gyfer canllawiau a newidiadau i Reolau Sefydlog i gyfarfod yn y dyfodol.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddant yn dychwelyd at y papur ar aelodaeth Pwyllgorau, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol, gan gynnwys d'Hondt, yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.